Comisiynydd y Gymraeg
Delyth
Jewell AS Cadeirydd
Y PwyllgorDiwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon a Chysylltiadau Rhyngwladol
Bae Caerdydd,Caerdydd, CF99 1SN SeneddDiwylliant@senedd.cymru
25 Tachwedd2025
![]()
Annwyl DelythJewell AS
Ar fy rhan i a’m Dirprwy, Osian Llywelyn, hoffwn ddiolchyn fawr am y cyfle i ddod i roi
tystiolaeth i’r Pwyllgor ar 12 Tachwedd2025. Dyma ymatebi’ch sylwadau. Ystyriaethau o ran y gyllideb
Byddem yn croesawu mwy o adnoddau. Fodd bynnag, hyd yn oed petai adnoddau yn prinhau, byddem yn parhau i groesawu dod â mwy o gyrff o dan safonau’r Gymraeg. Mae hynny oherwydd ein bod yn bendant o’r farn fod dod â mwy o gyrff a sectorau o dan Safonau’r Gymraego les i’r iaith Gymraeg.Byddai gwneud hynnyheb adnodd ychwanegol yn rhoi pwysau ar adnoddau’r swyddfa, ac yn golygu y byddai’n rhaid i ni rheoleiddio fwy- fwy ar sail risg.
Mae ein cyfrifoldebau yn cynyddu dros amser, a mae angen adnoddau digonol arnom er mwyn gwneud ein gwaith yn effeithiol. Rydym wedi nodi hyn yn ein cynigion maniffestolle’r ydym yn gofyn i lywodraeth nesaf Cymru gyhoeddi rheoliadau safonau’r Gymraeg ar gyfer Gweinidogion y Goron ac adrannau anweinidogol Llywodraeth y Deyrnas Unedig, ac yn gofyn am raglen glir ar gyfer ymestyn safonau’r Gymraeg i sectoraua sefydliadau eraill.
Hyd yma wrth i adnoddau brinhau rydym wedi blaenoriaethu adnoddau i’n ffwythiannau rheoleiddio, er ein bod yn gweld bod eingweithgareddau i gyfeiriadau eraill, gan gynnwys ein gwaith gyda’r sectoraupreifat a gwirfoddol hefyd yn dwyn ffrwyth o ran canlyniadau i’r Gymraeg ac yn cynyddu’r cyfleoedd i’w defnyddio.
Comisiynydd y Gymraeg Welsh LanguageCommissioner
Uned 2, Bloc C Unit 2, Block C
Doc Fictoria Victoria Dock
Ffordd Balaclafa Balaclafa Way
Caernarfon Caernarfon
LL55 1TH LL55 1TH
03456033 221 0345 6033 221
post@comisiynyddygymraeg.cymru post@welshlanguagecommissioner.wales
Croesewir gohebiaethyn y Gymraeg a’r Saesneg Correspondence welcomedin Welsh and English
comisiynyddygymraeg.cymru welshlanguagecommissioner.wales
Llywodraethu
Mae gennym berthynas waith gadarn gyda’r darparwr allanol sy’n darparu’r system rheoli achosion i ni, ac mae cynllun cyflawniwedi’i gytuno gyda nhw. Mae’r cynllun hwn yn nodi y bydd y gwaith datblygu llawn, ynghyd â hyfforddi staff perthnasol ar weithrediad y system, wedi’i gwblhau erbyn canol mis Mawrth 2026. Disgwylir felly i’r system fod yn weithredol o fis Ebrill 2026, gan ein galluogi i fanteisio ar holl fuddiannau’r system o’r dyddiad hwnnw ymlaen.
Mae’r prif fuddiannau disgwyliedig yn cynnwys yr isod:
¢ Awtomeiddio rhai tasgaugan olygu arbedionmewn amser staff.
¢ Lleihaubaich tasgau dydd i ddyddailadroddus a gweinyddol.
¢ Ein galluogi i gadw gwell cofnod o’n gwaith ac amserlenni y mae angen cadw
atynt.
¢ Ein galluogi i fesur cynnyddyn haws yn erbyn ein dangosyddion perfformiad.
¢ Ein galluogi i fonitroac adrodd yn well ar gyflawniad unrhywgamau gorfodi a osodir ar sefydliadau rydym yn eu rheoleiddio.
CEF Berwyn
Rwy’n cymryd y gwaith o fod yn lladmerydd ar ran siaradwyrCymraeg o ddifrif,yn enwedig yng nghyswllt aelodau bregus cymdeithas. Yn dilyn ymweliad â Charchar y Berwyn ar 17 Tachwedd ble cefais y cyfle i drafod y ddarpariaeth â staff a charcharorion, rwyf wedi penderfynu cynnal ymchwiliad statudol dan adran 17 o Ddeddf yr Iaith Gymraeg 1993 i fethiant posibl gan Wasanaeth Carchardai a Phrawf EF i gyflawni ei gynllun iaithGymraeg.
Yn ogystal, yn ystod yr ymweliad a’r sgyrsiau gyda’r carcharorion, clywsom am enghreifftiau o unigolion yn cael eu rhwystro rhag siarad Cymraeggyda’i gilydd. Mae
Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011 yn sefydlu rhyddid i ddefnyddio’r Gymraeg gydag eraill yng Nghymru.Rwyf wedi gofyn am sicrwyddbod carcharorion yn ymwybodol y gall unrhyw unigolyn sy’n teimlo bod eu rhyddid wedi’i gyfyngu gysylltu â’m swyddfa i ofyn am ymchwiliad.
Fel rwy’nei nodi uchod mae ein cynigion maniffesto yn gofyn i lywodraeth nesaf Cymru ddod â chyrff tebyg i’r Gwasanaeth Carchardai a Phrawf o dan gyfundrefn safonau’r Gymraeg.
Rheoleiddio a gorfodi
Hoffwn ddiolch i’r Pwyllgor am y sylwadau adeiladol a’r cydnabyddiaeth o’n dull rheoleiddio. Pwysleisiwn unwaith eto fod ynewid i gyd-reoleiddio fel dull yn un sy’n seiliedig ar egwyddorion, nid ar ystyriaethau cyllidebol.
Mae gennym rôl ddeuol fel rheoleiddiwr: addysgu, cefnogi a hyrwyddo cydymffurfiaeth, ond hefyd gorfodi lle bo angen. Ein dymuniad yw gweithio gyda sefydliadau drwy ddull ataliol a chydweithredol, er mwyn osgoi sefyllfaoedd lle mae angen camau gorfodi. Fodd bynnag, pan nad oes sicrwydd na hyder fod sefydliadau yn cyflawni eu dyletswyddau, byddwn yn gweithredu’n gadarn gan ddefnyddio ein holl bweraui sicrhau cydymffurfiaeth.
Mae angen i mi dynnu eich sylw at un mater sy’n ymwneudag Yswiriant Gwladol.Noder mai mater cyllidebol 2025-26 yw cynnydd Yswiriant Gwladol (felly heb ei gynnwys yn Adroddiad Blynyddol 2024-2025). Ein disgwyliad yw derbyn 85% o’r cynnydd, nid 100% fel y nodais yn y cyfarfod.
Diolch am eich diddordebyn ein gwaith, ac edrychafymlaen at barhau i drafod. Yr eiddoch yn gywir,
Comisiynydd y Gymraeg
Copi: Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a’r Gymraeg